Dyma dudalennau cyfeirio'r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff
Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol, cliciwch FAN HYN i gael mwy o wybodaeth am NERS neu FAN HYN i Motivate to Move.
Os ydych wedi taro ar y dudalen hon am eich bod yn glaf neu am fod gennych ddiddordeb yn y cynllun, ewch i siarad gyda'ch Meddyg Teulu neu gyda gweithiwr iechyd proffesiynol arall i gael eich cyfeirio i wneud ymarfer corff.
Drwy ddewis eich Sir o'r rhestr isod a nodi eich cyfrinair, bydd modd i chi lawrlwytho ffurflen gyfeirio a meini prawf cymhwyster ar gyfer pob rhaglen ymarfer corff sydd ar gael yn eich sir.
Cyflwyniad y wefan – ail-lansio Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
Yn dilyn blwyddyn gyfan o ddarparu gweithgareddau ar-lein i’n hatgyfeiriadau presennol, rydym yn falch o’ch hysbysu y bydd y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn ail-agor i atgyfeiriadau newydd. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu i weithwyr iechyd proffesiynol eich ardal leol gan gydlynydd Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yr awdurdod lleol. Bydd y manylion hyn yn rhoi gwybodaeth ynghylch pryd fydd eu hardal yn barod i dderbyn atgyfeiriadau newydd a beth fydd eu cynnig fel rhan o ddarpariaeth gyfunol o weithgareddau ar-lein, dan do ac yn yr awyr agored. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall y dull hwn ei achosi, ond rydym yn ailddechrau gyda’r camau hyn i sicrhau bod y mesurau cadw pellter cymdeithasol priodol ar waith. Mae hyn yn ein galluogi i ddiogelu iechyd a lles, chi, cyfranogwyr Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, yn ogystal â’r staff sy’n darparu’r rhaglen.